Heddlu Dyfed-Powys yw’r heddlu tiriogaethol sy’n gyfrifol am blismona Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro (sef ardal Dyfed) a sir Powys, yng Nghymru. Mae’r diriogaeth yn rhychwantu ardal fwyaf yr heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Lleolir pencadlys yr heddlu yn nhref Caerfyrddin.
Yn rhanbarth Dyfed-Powys, mae dros 350 o filltiroedd o arfordir a llawer o gymunedau gwledig anghysbell – ond eto i gyd mae nifer o hen ardaloedd diwydiannol yn wynebu newid ac ailddatblygu sylweddol ar hyn o bryd.
Er gwaethaf ehangder yr ardal, mae’r boblogaeth o dan 500,000, er bod niferoedd uchel o dwristiaid yn rhoi hwb fawr i’r nifer hwn bob blwyddyn.
Ymhlith prif wasanaethau’r Adran Ystadau mae:
Ar hyn o bryd mae’r Adran Ystadau yn cynnwys 6 aelod o staff technegol/gweinyddol, ynghyd â thri gweithredydd masnachol pellach, sydd oll yn gweithio yn y Pencadlys.

Yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, mae tri phrosiect cyfalaf mawr gwerth mwy na £1.5 miliwn wedi’u dechrau. Ymysg y cynlluniau yn y dyfodol i wario £21.4m ar brosiectau, mae uned adleoli’r Hofrennydd, gorsaf heddlu newydd yn Aberteifi, menter ar y cyd gyda’r Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys i greu Canolfan Gwasanaethau Brys newydd yn Llandrindod, a Strategaeth Ystadau Sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys datblygu Gorsafoedd Heddlu Caerfyrddin a Llanelli.
Yn y flwyddyn ariannol flaenorol roedd rhyw ddwy ar bymtheg o raglenni cyfalaf bach gwerth rhwng £15k a £125k ar y gweill. Mae’r rhain yn cynnwys cenelau newydd a llety staff cynnal ar gyfer yr Adran Gŵn yn y Pencadlys, adeilad symudol ym Mharc y Brodyr, addasiadau a gwaith cydymffurfiaeth â’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd yn yr Adeilad Cyfathrebu, a gwaith adnewyddu helaeth yn y Drenewydd, y Trallwng, Parc y Brodyr a Hwlffordd. Yn ogystal, mae cynlluniau adnewyddu yn Llanelli, Abergwaun, Aberystwyth, Llanbedr Pont Steffan a Machynlleth wedi’u cwblhau’n ddiweddar.
Mae Grŵp y Prif Swyddogion wedi sefydlu Gweithgor Cynaliadwyedd ac Amgylcheddol, dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau. Mae’r grŵp hwn yn rhoi cyfeiriad ynghylch sut i weithredu’r Polisi Amgylcheddol ac yn cydlynu gwaith i symud mentrau cysylltiedig yn eu blaen. Mae’r Grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o’r adrannau Gweithrediadau, Gwasanaethau Masnachol, Gwasanaethau Corfforaethol, Ystadau, Cyllid a Gwasanaethau Fflyd – ynghyd â chynrychiolwyr o Awdurdod yr Heddlu ac o feysydd busnes eraill yr Heddlu. Drwy fabwysiadu’r egwyddorion a nodir yn y Polisi, mae cyfle i’r Heddlu sefydlu a datblygu rheolaeth amgylcheddol gadarn a chynaliadwy ar draws ei waith beunyddiol, gan sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol tra’n cynnal ansawdd gwasanaeth uchel i’r cyhoedd.