english        
Cyfleoedd

page banner

Gwybodaeth am y Cwmni
Hyd at £30,000 yn dibynnu ar brofiad.

Gwybodaeth am y Cwmni / Sefydliad:

Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig (HTP) yw’r heddlu cenedlaethol sy’n gyfrifol am rwydwaith y rheilffyrdd. Ers 1825, mae’r gwasanaeth blaengar ac amrywiol hwn yn ymgymryd ag amrywiaeth o faterion o ddiogelwch defnyddwyr a staff y rheilffordd, lladrad a thresbasu i wrthderfysgaeth. O ganlyniad i benodi Awdurdod yr Heddlu ym mis Gorffennaf 2004 cafwyd newid ym marn yr HTP o’r ffordd yr oeddent yn darparu eu gwasanaeth i’w cwsmeriaid, yn fewnol ac yn allanol. O ganlyniad, mae’r HTP yn cynnig cyfleoedd gyrfa anhygoel yn eu Canolfan Cofnodi Troseddau sy’n agor yng Nghaerdydd yn y dyfodol agos.

Disgrifiad
Yn gyfrifol am Broses Genedlaethol yr HTP o Gofnodi Troseddau, gofal cychwynnol i ddioddefwyr, ymateb ymchwiliadol a materion ansawdd data. Sicrhau bod y ganolfan yn darparu gwasanaeth o’r safon uchaf, mewn modd proffesiynol a chydsyniol. Rheoli’r staff a chael cyfrifoldeb llawn dros gyllideb y ganolfan. Sicrhau bod yr holl wybodaeth sy’n cael ei chasglu’n cael ei chofnodi a’i chadw’n ddiogel yn unol â gofynion rheoliadol. Rhoi cyfrifoldeb i’r Dirprwy Reolwr ac Arweinyddion Tîm i fentora, hyfforddi a datblygu eu priod dimau. Cynllunio a chyflwyno cynlluniau strategol gan sicrhau y cyflawnir amcanion. Sicrhau bod perfformiad staff yn cael ei arfarnu’n rheolaidd. Mynychu cyfarfodydd Uwch Dîm Rheoli’r Heddlu pan fo’n briodol.

Manyldeb yr Ymgeisydd

  • Cymhwyster hyd at lefel gradd neu lefel gyfatebol, gyda thua 3 i 5 mlynedd o brofiad rheoli ymarferol, yn ddelfrydol o fewn Canolfan Gyswllt.
  • Mae gwybodaeth sylfaenol o Gyfraith Troseddau, Safonau Cofnodi Troseddau Cenedlaethol, a rheolau Cyfrifo’r Swyddfa Gartref yn ddymunol.
  • Rhaid bod wedi arddangos rheolaeth lwyddiannus o’r gyllideb.
  • Lefelau uchel o hunan gymhelliant.
  • Hyblyg gydag oriau gwaith.
  • Hyder i greu a dylanwadu ar bolisïau, arferion a gweithdrefnau’r heddlu.

Sgiliau

  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Gallu i greu cydberthnasau da gydag eraill.
  • Mae sgiliau cyfrifiadurol yn hanfodol.
  • Sgiliau rhyngbersonol gwych.

Manteision

  • Cyfle i ddylanwadu ar ffurf y busnes.
  • Cyflog cychwynnol ardderchog yn ddibynnol ar brofiad.
  • Hyfforddiant llawn a chyfleoedd gyrfa yn y tymor hir.
  • Wedi ei leoli yng nghanol y ddinas, delfrydol i ddefnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus.

Gwnewch gais am y swydd hon: cardiff.contactcentres@hays.com


   
© British Transport Police 2003 - Privacy Policy and Legal disclaimer